Ynglŷn â’r Cynhyrchwyr

 

Mae’r prosiect hwn wedi ei gyd-gynhyrchu gan Theatr Mwldan ac Astar Artes.

 

Theatr Mwldan

Mwldan-Purple-PNG

Mae Theatr Mwldan yn ganolfan y celfyddydau aml-gyfrwng, yn sinema ac yn lleoliad cynhyrchu yn Aberteifi, Gorllewin Cymru. Ers 2006 mae’r Mwldan wedi cynhyrchu dros 50 o gynyrchiadau teithiol, gan arbenigo mewn cerddoriaeth byd, cerddoriaeth draddodiadol a theatr, sy’n teithio hyd a lled y DU, ac weithiau ymhellach i ffwrdd. Gallwch ddarllen mwy am y Mwldan a’i phortffolio ar ei gwefan www.mwldan.co.uk

 

Astar Artes

Astar-blk-PNG

Mae Astar Artes Recordings yn gwmni rheoli artistiaid a chynhyrchu cerddoriaeth wedi ei leoli yn Nyfnaint. Mae’r gair Astar yn Aeleg am siwrnai, pellter, momentwm. Gyda’i gilydd mae sefydlwyr y cwmni, John Hollis a Drum yn symud ymlaen, yn ddarparwyr cerddoriaeth gain a’r grŵf hollalluog. Darllenwch mwy am Astar Artes a’i brosiectau trwy fynd at y wefan www.astarmusic.co.uk

Mae’r ddau gwmni wedi cyd-gynhyrchu â’i gilydd ar nifer o brosiectau llwyddiannus yn y gorffennol gan gynnwys Catrin Finch a Cimarron, a Billy Cobham ac Asere.