Gwobrau

 
froots-songlines-awards-logos
• Cafodd Clychau Dibon ei enwi fel un o Ddeg Albwm Gorau Cylchgrawn Songlines 2013 – yr artist/prosiect Cymreig cyntaf erioed i’w gynnwys

• Enillodd Clychau Dibon Albwm y Flwyddyn Pleidlais Beirniaid fRoots 2013. Pob blwyddyn ers 1986 mae fRoots wedi casglu barn arbenigwyr yn y DU ac ar draws y byd er mwyn dethol Albwm y Flwyddyn yn y meysydd o gerddoriaeth y mae’r cylchgrawn yn eu hyrwyddo – cerddoriaeth werin, roots a byd. Gyda dros 300 o ysgrifenwyr, darlledwyr ac actifyddion ar y panel, mae Albwm y Flwyddyn Pleidlais Beirniaid fRoots bellach wedi ei sefydlu fel yr arolwg barn flynyddol fwyaf helaeth ei ymchwil a chlodfawr o’i fath, y wobr ddiwydiant arweiniol de facto.

• Roedd Clychau Dibon yn yr ail safle yng ngwobrau fRoots ar gyfer y CD oedd wedi ei Gyflwyno Orau yn 2013

• Cafodd Catrin a Seckou eu henwebu am ddwy Wobr Werin BBC Radio 2 – Deuawd Gorau, a Thrac Traddodiadol Gorau ar gyfer ‘Les Bras de Mer’

• Dewisodd Robin Deneslow o The Guardian Clychau Dibon yn un o’i 5 Albwm Cerddoriaeth Byd Gorau 2013.

• Mae Catrin a Seckou wedi eu henwebu ar gyfer y Cydweithrediad Traws-ddiwylliannol Gorau yng Ngwobrau Cylchgrawn Songlines 2014.